Torri â Laser
Rydym wedi cael cymaint o hwyl yn chwarae gyda'r Glowforge ac mae ein canlyniadau terfynol glân a miniog wedi creu cymaint o argraff arnom.
Roedd y delweddau cyntaf a'r olaf yn defnyddio'r un templed dylunio a grëwyd gennym yn ngofod dylunio’r Glowforge. Gwnaed y darn yn y ddelwedd gyntaf o acrylig clir a gwnaed y darn yn y ddelwedd olaf o bren cneuen Ffrengig.
Crëwyd y dyluniad yn y ganolfan gan ddefnyddio dyluniad wedi'i wneud ymlaen llaw gan Glowforge gydag amser cyfyngedig. Byddwn yn defnyddio ystod o feddalwedd i greu dyluniadau pan fyddwn ar waith yn swyddogol. Gall hyn hyd yn oed gynnwys meddalwedd fel Microsoft Powerpoint y bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi dod ar ei draws o'r blaen.
Ni allwn aros i ddechrau datblygu gweithdai sy'n cyflwyno'r cyhoedd i dorri laser ac ysgythru, mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw syniadau dylunio yr hoffech eu trafod!